Gwlad | Cymru |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 2009 (2021 ar ei newydd wedd) |
Nifer o dimau | 8 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Adran y De / Adran y Gogledd |
Cwpanau | Cwpan CBD Merched Cymru |
Cwpanau cynghrair | Tlws Adran (tlws Cwpan Cynghreiriau Adran) |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Adran Premier yw'r gynghrair pêl-droed merched lefel uchaf yng Nghymru a gymerodd le Uwch Gynghrair Merched Cymru yn dilyn adrefnu ar ddechrau tymor 2021/22.[1]
Fe’i gweinyddir gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a chafodd ei sefydlu yn 2009, fel Cynghrair Merched Cymru, a hi yw’r gynghrair bêl-droed gyntaf i ferched yng Nghymru. Mae'r enillydd yn gymwys i gael lle yng Nghynghrair y Pencampwyr Merched UEFA.
Cyhoeddwyd newid i enw swyddogol y gynghrair ar gyfer tymor 2021-22 sef, Genero Adran Leagues (gan arddel y gair Cymraeg adran yn y fersiwn Saesneg o'r Gynghrair hefyd). Dyma'r Gynghrair merched gyntaf ym Mhrydain a dim ond y 3ydd yn Ewrop i ollwng y gair 'merched' o deitl y gyngrair er mwyn normaleiddio a rhoi statws i bêl-droed merched.[2] Dywedodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod CBD Cymru, "'da chi ddim yn rhoi'r enw 'dynion' ar y Cymru Premier ... pam sydd angen i roi'r enw 'merched' ynddo fo? Achos,ar ddiwedd y dydd, dim ond pêl-droed yw e"[3]
Mewn blynyddoedd blaenorol anfonwyd enillydd y cwpan cenedlaethol i gystadleuaeth Ewropeaidd.